Crymbl afal

Yn gweini: 2
Amcangyfrif o amser: 1 awr

Cynhwysion

  • 4 afal
  • 2 lwy fwrdd o siwgr
  • 1 llwy de o sinamon (dewisol)
  • 100g o flawd
  • 50g o fenyn

Cyfarwyddiadau

  1. Taniwch y popty i 180C
  2. Golchwch yr afalau cyn eu torri’n ddarnau bach a’u rhoi mewn dysgl
  3. Gwasgarwch ddwy lond llwy o siwgr dros yr afalau ac ychwanegwch y sinamon os ydych yn dymuno
  4. Rhowch y blawd a’r menyn mewn powlen a rhwbiwch y ddau gyda’i gilydd i wneud y crymbl
  5. Gwasgarwch y gymysgedd dros yr afalau
  6. Rhowch y ddysgl yn y popty am 30 munud
  7. Cymerwch ofal wrth ei thynnu allan o’r popty
  8. Gweinwch gyda chwstard cynnes neu hufen iâ
  9. Mwynhewch!