Wyau wedi'u Sgramblo

Yn gweini: 2
Amcangyfrif o amser: 15 munud

Cynhwysion

  • 3 Ŵy
  • 2 Dafell o Fara
  • Llaeth
  • Menyn

Cyfarwyddiadau

  1. Trowch yr hob ymlaen - byddwch yn ofalus, bydd yn poethi
  2. Rhowch ychydig o fenyn mewn padell ffrio
  3. Torrwch 3 ŵy mewn jwg neu bowlen a chymysgwch
  4. Ychwanegwch ychydig o laeth a chymysgwch eto
  5. Tywalltwch yr wyau i mewn i badell boeth
  6. Cymysgwch nes y bydd yr wyau wedi coginio
  7. Rhowch y bara yn y tostiwr
  8. Rhowch fenyn ar eich tost
  9. Rhowch y tost ar blât ac yna rhowch yr wyau wedi’u sgramblo ar ben y tost
  10. Cofiwch ddiffodd yr hob!